Ffitrwydd, Iechyd, Trawsnewid! Mae FFIT Cymru yn ôl - a'i chi ydi un o Arweinyddion 2023? Mae'n bosibl i chi gwblhau'r ffurflen gais yn Gymraeg neu'n Saesneg ond bydd angen i chi allu siarad ychydig o Gymraeg i gymryd rhan yn y gyfres. Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni cais ar ran rhywun arall e.e ni allwch enwebu partner, ffrind ayb. Os oes mwy nac un aelod o'ch teulu eisiau cymryd rhan, yna bydd angen i bob aelod lenwi ffurflen yn unigol. Mae'r ffurflen gais yn eithaf hir felly cymerwch eich amser. Mae'n bosib cadw eich atebion a dod yn ôl atyn nhw drwy glicio'r eicon 'cadw'.
Mae FFIT Cymru yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir, ac yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, bobl anabl neu Fyddar, a bobl sy’n hunaniaethu’n LGBTQ+. Os hoffwch sgwrs anffurfiol am fwy o wybodaeth, gallwch chi gysyllu â’r tîm cynhyrchu ar ffitcymru@cwmnida.tv
Os oes well gennych, gallwch yrru fidio byr yn esbonio pam hoffech chi fod yn Arweinydd nesaf FFIT Cymru a'i yrru at ffitcymru@cwmnida.tv
Dyma eich cyfle i newid eich bywyd felly plîs llenwch y ffurflen gan fod mor agored ac onest a phosibl.
Fitness, Inspiration, Transformation! FFIT Cymru is back - will you be one of our 2023 leaders? You can fill out the form in English or in Welsh, but it is necessary for you to speak some Welsh to take part in the series. We won't accept any application forms filled out on behalf of someone else i.e you can't nominate a partner, friend etc. If multiple members of the family want to take part, each individual will have to fill in their own form. The application form is rather long, so take your time. It's possible to save your form and come back to it at any time by clicking the save button.
FFIT Cymru are keen to receive applications from people of any background, and we especially welcome applications from people from ethnic minority communities, disabled or Deaf people, and people who identify as LGBTQ+. If you’d like an informal conversation for more information, you can contact the production team on ffitcymru@cwmnida.tv
If you prefer, you can send a short video explaining why you'd like to be FFIT Cymru's next leader to ffitcymru@cwmnida.tv.
This is your chance to change your life, so please fill out the form as honestly as possible.
Addasrwydd / Eligibility
Ar gyfer oedolion dros 18 oed yn unig / For adults over 18 years old only.